Apply Now
Job Number
SU00312
Contract Type
Permanent
Salary
£38,205 to £44,263 per annum
Faculty/Directorate
Other
Location
Singleton Campus, Swansea
Closing Date
2 Jun 2024
Interview Date
12 Jun 2024
Informal Enquiries

About The University

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

About The Role

Dyma gyfle arbennig i gyflawni rôl allweddol o fewn Dysgu Cymraeg – Ardal Bae Abertawe.

Byddwch yn gyfrifol am arwain ar y gwaith o wella a sicrhau ansawdd yr addysgu a’r profiadau cyffredinol a gynigwn i’n dysgwyr. Byddwch yn cael cyfle i feithrin talent addysgu newydd ar y naill law; tra’n ysgogi ac ysbrydoli tiwtoriaid profiadol ar y llall, gan annog arloesedd a blaengaredd ym mhob agwedd o faes addysgu Cymraeg i oedolion. Bydd gwrando ar farn ein dysgwyr a chreu cynlluniau ar sail hynny i wella ansawdd ac apêl y ddarpariaeth hefyd yn ganolog i’r gwaith.

Eich nod, yn syml, fydd anelu at welliant parhaus yn ein safonau dysgu ac addysgu ar draws holl ystod ein darpariaeth. Golyga hynny’r cyfle i gael dylanwad cadarnhaol ar ein gwersi prif ffrwd, ein gwersi a leolir mewn gweithleoedd, ein rhaglen o gyrsiau atodol a’r digwyddiadau cefnogi a chymdeithasol a drefnwn i’n dysgwyr.

Byddwch yn rhan greiddiol o brosesau cyfathrebu a rheadru gwybodaeth ar draws y tîm, a byddwch yn dylanwadu ar ein gweithlu a’u hysgogi drwy lunio gweithgareddau, digwyddiadau a chynlluniau hyfforddiant pwrpasol ar eu cyfer. Caiff hyn yn ei dro ddylanwad cadarnhaol ac uniongyrchol ar brofiadau ein dysgwyr. Mae’n gyfle gwych i gamu i rôl ddylanwadol ac allweddol – un a fydd yn agor y drws ar y Gymraeg i garfannau o ddysgwyr a chyfoethogi eu bywydau.

Equality, Diversity & Inclusion

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Welsh Language Skills

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 3 - Rhugl. The role holder will be able to conduct a fluent conversation in Welsh on a work-related matter and write original Welsh material with confidence.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Additional Information

Bydd ceisiadau ar gyfer y rôl hon ar ffurf CV ynghyd â llythyr cyflwyno

Share

Download Disgrifiad Swydd Print this page Back to list